Ein Dull o Weithredu

Mae cenhadaeth, gwerthoedd a phwrpas unigryw yn ein gyrru

Ein cenhadaeth yw:
'Yn falch i'ch cynorthwyo i droi tŷ yn gartref i chi'

A'n gwerthoedd yw:

  • Rhoi ein cwsmeriaid wrth galon ein gwaith
  • Annog defnydd o'r Gymraeg
  • Llywodraethu ein busnes yn effeithiol
  • Bod â busnes sy’n hyfyw ac yn gadarn yn ariannol
  • Bod yn gynaliadwy ym mhopeth a wnawn

 

Ein bwriad yw dod o hyd i ddatrysiadau tai i bobl.  Dyw hi ddim yn fwriad gennym i wneud elw - ac os gwnawn ni, rydyn ni'n ei ddefnyddio i wella'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Dydyn ni ddim yn talu buddran i'n cyfranddalwyr.

Os hoffech gymryd rhan yn ein gwaith, ymunwch â ni fel aelod cyfranddaliol drwy gwblhau'r ffurflen gais aelodaeth , sydd yn yr adran Adnoddau, a'i hanfon yn ol gyda thal o £1. Bob blwyddyn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mae ein cyfranddalwyr yn ethol ein Bwrdd, a hwnnw sy'n llywodraethu popeth a wnawn. Ein tîm o staff cyflogedig sy'n rhedeg y busnes o ddydd i ddydd. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd y Bwrdd yn agored i'r cyhoedd - edrychwch ar y dudalen Cyfarfodydd a Digwyddiadau yn yr adran Adnoddau a Lawrlwytho ac os hoffech chi ddod, rhowch wybod i ni.