File Download
Rhaglen Datblygu 2011-2013Cynllun Adeiladu Tai Newydd
CARTREFI NEWYDD i Ogledd Sir Benfro
Mae Cantref wedi llwyddo i gael caniatâd cynllunio llawn i godi 27 o gartrefi yng Nghefn Coed, Scleddau, yng Ngogledd Sir Benfro. Hefyd gwneir cais i Lywodraeth Cymru gymeradwyo’r cynllun i alluogi dechrau ar y gwaith ar y safle fis Hydref.
Ar y safle bydd 8 fflat 1 ystafell wely i 2 berson; 9 ty 2 ystafell wely i 4 person; a 10 ty 3 ystafell wely i 5 person. Ariennir y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru drwy ddull newydd o ariannu. Mae’r cynllun hwn wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Grant Refeniw i gymryd mantais o’r hyn a elwid gynt yn Fond Tai Cymru ond a elwir bellach yn Grant Cyllid Tai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £4miliwn y flwyddyn am y 30 blynedd nesaf ar ffurf Grant Refeniw fydd yn galluogi cymdeithasau tai yng Nghymru fenthyca rhyw £140miliwn ar gyfer datblygu mwy na 1,100 o dai fforddiadwy newydd. Menter newydd yw hon gan Lywodraeth Cymru a ddatblygwyd ar y cyd â’r sector Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a Llywodraeth Cymru ac sy’n arian ychwanegol i’r Grant Tai Cymdeithasol o fodelu datblygu mwy traddodiadol.
Mae dwy brif elfen i’r Grant Cyllid Tai. Yr elfen gyntaf yw gallu cymdeithasau tai yng Nghymru i fenthyca £140miliwn oddi wrth fuddsoddwyr sefydliadol drwy ddefnyddio Gwarantau
Llywodraeth y DU i ariannu datblygiadau tai fforddiadwy ar 100% o gost gros y cynllun. Yr ail elfen yw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i neilltuo £4miliwn y flwyddyn o grant refeniw, sy’n cyfateb i’r gost ychwanegol o’r benthyca 100% fyddai wedi’i ddarparu gynt gan y Grant Tai Cymdeithasol. Rhaglen adeiladu dros gyfnod o 15 mis yw hon a bydd cartrefi ar gael fis Ionawr 2015.