Gofal a Thrwsio
O ganlyniad i bolisi Llywodraeth Cymru i ostwng nifer yr asiantaethau Gofal a Thrwsio ar draws Cymru, mae Gofal a Thrwsio Ceredigion bellach wedi uno gyda Gofal a Thrwsio Sir Benfro er mwyn ffurfio
Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru
o 1 Gorffennaf 2015.
Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaeth pwrpasol cyflawn i bobl dros 60 oed neu bobl y mae ganddynt anabledd, ac mae'n cael ei strwythuro er mwyn bodloni gofynion ac anghenion unigol.