File Download

Llawlyfr Lesddeiliad

Lesddeiliad a Chyd-Berchnogion

Lesddeiliad a Chyd-Berchnogion

Ein Cartrefi a’n Gwasanaethau

Prydleswr /Lesddeiliad
Mae gan Cantref nifer o fflatiau prydles yn ein stoc tai, ac mae’r Gymdeithas yn hynod falch o allu cynnig sawl gwahanol fath o eiddo.
Mae prydleswyr yn prynu’r hawl i fyw yn ein heiddo am nifer penodol o flynyddoedd. Cyfnod o 125 o flynyddoedd yw hyn fel arfer. Cantref sy’n berchen ar rydd-ddaliad yr adeilad ac sy’n gyfrifol am fframwaith yr adeilad, y tu allan i’r adeilad a’r ardaloedd cyffredin o’r bloc o fflatiau.
Fel prydleswr ar eiddo Cantref rydych yn talu cyfran o’r gost o gynnal-a-chadw’r bloc, ac mae Cantref yn darparu gwasanaethau yn y tâl gwasanaeth.     
Ymhle mae ein heiddo prydles?
18 o fflatiau yng Ngerddi Rheidol
 phwy y dylwn gysylltu os oes cwestiwn neu b roblem gennyf?  
' Tîm y Gogledd:
' Tîm y De:
Sut mae dod yn brydleswr?
Mae ein heiddo prydles yn cael eu marchnata gan werthwyr tai lleol ac ar ein gwefan. 
Wrth ddod yn brydleswr gyda Cantref mae gofyn dilyn proses benodol. Dylech gysylltu â Cantref os ydych yn ystyried prynu eiddo prydles.
 
Rhan-berchnogion
Hefyd mae gan Cantref eiddo rhan-berchnogion. Mae pob un o’r eiddo â les sy’n nodi amodau’r les. Cantref fydd yn berchen ar ganran o’r eiddo a’r rhan-berchennog fydd yn berchen ar weddill yr eiddo.
Sawl eiddo rhan-berchennog sydd gan Cantref?   
10 eiddo rhan-berchennog
 phwy y dylwn gysylltu os oes cwestiwn neu b roblem gennyf?
' Tîm y Gogledd:
' Tîm y De: