File Downloads

Ffurflen Gais Neuadd y Goron Hysbysiad Taliadau Rhent Neua... Drafft Hysbysiad Rhent Neuadd...

Llety i Fyfyrwyr

Mae ein llety i fyfyrwyr mewn man delfrydol yng nghanol tref Aberystwyth ac yn cynnig cyfleusterau i roi’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr o fywyd prifysgol. Nid yn unig y mae’r adeilad hwn a adeiledir yn arbennig ar gyfer llety myfyrwyr, o fewn cyrraedd hwylus i’r holl gyfleusterau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus, mae hefyd o fewn ychydig funudau o gerdded i’r Brifysgol!

Beth sydd ar gael?

Mae’r adeilad pedwar llawr hwn yn cynnig 51 o ystafelloedd en-suite gyda chegin a lle bwyta ar bob llawr. Mae pob ystafell yn cynnwys celfi o safon uchel ac yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite ynghyd â phwyntiau data ar gyfer mynediad cyflym i’r rhyngrwyd. Mae pob llawr yn cynnwys o leiaf ddwy gegin gymunol sy’n cynnwys ystod lawn o offer cegin sydd fel arfer mewn cartref, yn ogystal â lle bwyta helaeth. Hefyd mae lle golchi dillad ar y llawr gwaelod.

Mae ein system ddiogelwch ddiweddaraf yn golygu bod y llety hwn yn lle diogel a chyffyrddus i fyfyrwyr fyw. Mae’r camerâu cylch cyfyng allanol a mewnol a’r system cloeon drysau diweddaraf ond yn rhai o’r cyfleusterau a ddarperir gennym i sicrhau diogelwch ein tenantiaid.

Nodweddion Allweddol

  • Llety yng nghanol y dref

  • 51 o ystafelloedd en-suite
  • Nifer cyfyngedig o lefydd parcio a chyfleusterau parcio beic yn ddiogel

  • Mynediad cyflym i’r rhyngrwyd

  • Cegin llawn offer a lle bwyta

  • Systemau Electronig diogel o agor drysau

  • Llety a reolir sy'n cynnwys gwasanaeth diogelwch y tu allan i oriau swyddfa a chamerâu CCTV 

  • Cyfleusterau golchi dillad

 

Rhent Oll Gynhwysol

Bwriedir i’r llety fod yn barod fis Ionawr 2013. Mae’r llety hwn yn cynnig gwerth ardderchog am arian i fyfyrwyr sy’n edrych am le da i fyw mewn lleoliad canolog a chyfleus. Mae ein rhenti cystadleuol yn cynnwys cost eich biliau cyfleustodau a chyswllt â’r we.  (Rhent wythnosol £104.50)    

Diddordeb?

Os oes diddordeb gennych mewn llogi ystafell ar gyfer y tymor nesaf, neu os dymunwch gael rhagor o wybodaeth, cysyllter os gwelwch yn dda â