File Downloads
Ffurflen Gais Neuadd y Goron Hysbysiad Taliadau Rhent 40 w...Llety i Fyfyrwyr £99
Mae ein llety myfyrwyr mewn man delfrydol yng nghanol tref Aberystwyth ac yn cynnig cyfleusterau i roi’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr o fywyd prifysgol. Nid yn unig y mae’r adeilad hwn a adeiledir yn arbennig ar gyfer llety myfyrwyr, o fewn cyrraedd hwylus i’r holl gyfleusterau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus, mae hefyd o fewn ychydig funudau o gerdded i’r Brifysgol!
Beth sydd ar gael?
Mae’r adeilad pedwar llawr hwn yn cynnig 51 o ystafelloedd en-suite gyda chegin a lle bwyta ar bob llawr. Mae pob ystafell yn cynnwys celfi o safon uchel ac yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite ynghyd â phwyntiau data ar gyfer mynediad cyflym i’r rhyngrwyd. Mae pob llawr yn cynnwys o leiaf ddwy gegin gymunol sy’n cynnwys ystod lawn o offer cegin sydd fel arfer mewn cartref, yn ogystal â lle bwyta helaeth. Hefyd mae lle golchi dillad ar y llawr gwaelod.
Mae ein system ddiogelwch ddiweddaraf yn golygu bod y llety hwn yn lle diogel a chyffyrddus i fyfyrwyr fyw. Mae’r camerâu cylch cyfyng allanol a mewnol a’r system cloeon drysau diweddaraf ond yn rhai o’r cyfleusterau a ddarperir gennym i sicrhau diogelwch ein tenantiaid.
Nodweddion Allweddol
- Llety yng nghanol y dref
- 51 o ystafelloedd en-suite
- Nifer cyfyngedig o lefydd parcio a chyfleusterau parcio beic yn ddiogel
- Mynediad cyflym i’r rhyngrwyd
- Cegin llawn offer a lle bwyta
- Systemau Electronig diogel o agor drysau
- Llety a reolir sy'n cynnwys gwasanaeth diogelwch y tu allan i oriau swyddfa a chamerâu CCTV
- Cyfleusterau golchi dillad
Rhent Oll Gynhwysol
Mae'r llety yn barod nawr. Mae’r llety hwn yn cynnig gwerth ardderchog am arian i fyfyrwyr sy’n edrych am le da i fyw mewn lleoliad canolog a chyfleus. Mae ein rhenti cystadleuol yn cynnwys cost eich biliau cyfleustodau a chyswllt â’r we. (Rhent wythnosol nawr yn £99!)
Diddordeb?
Os oes diddordeb gennych mewn llogi ystafell ar gyfer y tymor nesaf, neu os dymunwch gael rhagor o wybodaeth, cysyllter os gwelwch yn dda â neu ffoniwch (neu ebostiwch neu ffoniwch dros Wyl y Banc).