Llety â Chymorth

Cefnogi pobl fregus yn ein cymunedau

  • Gwasanaethau cefnogi i gynnal tenantiaethau
  • Cydweithio gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol
  • Cynorthwyo awdurdodau lleol gyda phob agwedd o ddigartrefedd
  • Cynnig cefnogaeth a chyngor diduedd

Beth yw Llety â Chymorth?

Helpu tenantiaid i:

  • Gynnal tenantiaeth lwyddiannus
  • Gyflawni nodau a thargedau a gytunwyd
  • Dod yn annibynnol o gefnogaeth

Beth mae'r gefnogaeth yn ei olygu?

  • Cael ymweliadau cartref cyson gan y Gweithwyr Cymorth
  • Cytuno i gymryd rhan mewn cynllun cefnogaeth

Pryd fydd cymorth ar gael?

Yn bennaf, mae’r cymorth ar gael yn ystod y dydd, ac mewn amgylchiadau eithriadol ar gael fin nos. Mae’r amserau yn cael eu cytuno rhwng y tenant a’r gweithwyr cymorth.

Pa gymorth sydd ar gael?

  • Budd-daliadau, cynllunio gwario, talu biliau, problemau dyled
  • Gwaith, cyrsiau coleg a hyfforddiant
  • Gweithgareddau hamdden
  • Defnyddio gwasanaethau yn y gymuned leol
  • Cefnogaeth bersonol
  • Materion lletya
  • Chwilio am gefnogaeth gan wasanaethau eraill
  • Sgiliau Bywyd

Am faint fydd y cymorth yn parhau?

Mae’r gefnogaeth ar gael tra bod ei hangen. Wedyn, bydd y gefnogaeth yn lleihau’n raddol.

Enw cyswllt: Tracy Lee, Rheolwr Llety â Chymorth, Ffôn: