Amdanom ni
"Cynnal Pobl a Chymunedau"
Prif amcan Cymdeithas Tai Cantref yw diwallu anghenion ei hardal weithredu am gartrefi mewn cydweithrediad â’r Cynghorau Sir ac i wneud hynny, mor belled â phosib, mewn modd sy’n diogelu’r Gymraeg ac sy’n cryfhau cymunedau lleol a’r economi lleol.
Mae Cantref yn darparu cartrefi i deuluoedd, pobl sengl, yr henoed a phobl ag anghenion arbennig sydd angen cymorth i fyw yn y gymuned.