Gwerthoedd
Gwerthoedd Allweddol
Mae Cantref yn cydnabod:
-
pwysigrwydd cael cymunedau cryf er mewn sicrhau ansawdd da o fywyd
-
bod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o gymunedau cryf yn ei hardal weithredu
-
ei bod yn atebol nid yn unig i gyrff statudol rheoleiddio a chyfranddalwyr Cantref ond hefyd i'w thenantiaid, y Cynghorau Sir a chymunedau unigol
-
bod barn a phrofiadau ei thenantiaid yn werthfawr wrth reoli Cantref yn effeithiol
-
bod staff Cantref yn ased gwerthfawr na allai Cantref gyflawni eu hamcanion hebddynt
Ymrwymiadau
Yn dilyn ymlaen o'i gwerthoedd allweddol mae Cantref wedi ymrwymo i’r canlynol:
-
peidio â chodi neu brynu rhagor o dai yn unman oni bai fod gwir angen rhagor o dai cymdeithasol yno
-
rhoi blaenoriaeth deg ac agored i ymgeiswyr sydd â chysylltiadau lleol wrth osod eiddo
-
darparu gwasanaethau cyflawn yn y Gymraeg neu Saesneg yn ôl dewis yr unigolyn
-
defnyddio'r Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Gymdeithas a'i defnyddio, cyn belled â phosib, mewn gohebiaeth â chyrff eraill
-
darparu gwybodaeth i'w thenantiaid; creu cyfleodd iddynt fynegi eu barn am berfformiad Cantref; creu cyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn rheoli Cantref ac i barchu eu cyfraniad
-
darparu gwybodaeth yn eang am Cantref, ei gweithgareddau, a'i pherfformiad a chroesawu sylwadau gan gyrff lleol a'r cyhoedd yn gyffredinol
-
bod yn gyflogwr ystyrlon a hyblyg, parchu barn ei staff ac anelu at ddatblygu potensial llawn pob aelod o'i staff trwy ddarparu hyfforddiant, cymorth a phrofiad.
Gweledigaeth Cantref
Gweledigaeth Cantref yw:
-
bod cymunedau yn ei hardal weithredu yn gryf, hunan gynhaliol a ffyniannus lle mae'r Gymraeg yn chwarae rôl ganolog a chynyddol, a lle mae pobl yn gallu byw yn hapus a heb ofn
-
bod pobl yr ardal yn byw mewn cartrefi sy'n addas ac yn ddigonol iddynt, sy'n effeithiol o ran defnyddio ynni ac sy'n fforddiadwy
-
mai Cantref yw'r brif gymdeithas dai yn ei hardal weithredu yn darparu cartrefi i'r rhai na allent sicrhau cartrefi fforddiadwy addas iddynt eu hunan drwy brynu neu rentu yn y farchnad agored
-
cydweithio gyda'r cynghorau sir nid yn unig mewn darparu cartrefi, ond hefyd mewn strategaethau eraill i wella ansawdd bywyd pobl yr ardal ac i gryfhau cymunedau