Gorwel (consortiwm prynu gwasanaethau a nwyddau adeiladu)
Mae Cantref yn aelod o Gorwel. Consortiwm ar gyfer prynu gwasanaethau a nwyddau yw Gorwel a’r aelodau eraill yw Grŵp Tai Gwalia, Grŵp Tai Teulu a Chymdeithas Tai Bro Myrddin.
Nod Gorwel yw sicrhau gwell effeithlonrwydd wrth brynu gwasanaethau adeiladu a nwyddau drwy gyfuno pŵer prynu y pedwar aelod a gwella dulliau prynu a rheolaeth y gadwyn cyflenwyr.
Nid yw Gorwel yn gorff cofrestredig. Mae'n gytundeb gweithio cydweithredol rhwng y pedair cymdeithas dai sy’n aelod ohono.